Co-POWeR: Consortiwm ar Arferion Lles a Gwytnwch mewn Teuluoedd a Chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig.
Tîm Ymchwil: Prif Ymchwilydd, yr Athro Iyiola Solanke, Prifysgol Leeds; Cyd-ymchwilwyr: yr Athro Florence Ayisi, Prifysgol De Cymru; yr Athro Claudia Bernard, Goldsmiths, Prifysgol Llundain; yr Athro Gargi Bhattacharyya, Prifysgol Dwyrain Llundain; yr Athro Anna Gupta, Royal Holloway; yr Athro Raminder Kaur, Prifysgol Sussex; yr Athro Monica Lakhanpaul, UCL (Coleg Prifysgol Llundain); yr Athro Shirin Rai, Prifysgol Warwick; yr Athro Maria Stokes, Prifysgol Southampton a’r Athro Sabu Padmadas, Prifysgol Southampton.
Cyllidwr: UK Research and Innovation (UKRI) trwy law y Cyngor Cyllido Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Economic & Social Research Council [ESRC])
Gwefan: https://co-power.leeds.ac.uk/
Hyd: 18 mis – Chwefror 2021-Awst 2022
Crynodeb: Mae Co-POWeR yn archwilio effaith COVID-19 ar grwpiau Pobol dduon ac Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig (BAME). Mae’n brosiect ymchwil rhyngddisgyblaethol yn cynnwys naw (9) prifysgol yn y DU. Mae ymchwil Co-POWeR yn ymwneud â 5 astudiaeth arloesol cysylltiedig sy’n archwilio effaith gyfunol y pandemig Covid-19 a gwahaniaethu hiliol ar les a gwytnwch pobol BAME. Mae’n ceisio sefydlu dealltwriaeth lawnach o’r profiadau byw, y galluoedd a’r heriau sy’n wynebu teuluoedd a chymunedau BAME. Bydd y prosiectau cysylltiol hyn yn archwilio rhyngweithiad gofal, y broses o ofalu, a gofalwyr mewn teuluoedd a chymunedau BAME; impact grymoedd argyfwng y llywodraeth ar les a gwytnwch; gwella gwytnwch a lles er mwyn trin cyflyrau iechyd gwaelodol; a grymuso teuluoedd a chymunedau BAME drwy naratifau cadarnhaol.
Bydd ymchwil yn digwydd mewn partneriaeth gydag awdurdodau addysg lleol a mudiadau cymunedol, drwy grwpiau ffocws o hirbell a/neu wyneb-yn-wyneb, cyfweliadau unigol, dulliau chwedleua, a gweithdai cyfranogol gyda henaduriaid, pobl ifanc, plant a’u teluoedd ar draws y DU, yn cynnwys Leeds, Caerlyr, Cofentri, Caerdydd a sawl bwrdeistref yn Llundain gan gynnwys Camden a Tower Hamlets.
Impact
Ar sail eu darganfyddiadau, bydd timau ymchwil Co-POWeR yn gwneud argymhellion i wneuthurwyr polisi ar yr ymyriadau sydd eu hangen er mwyn lliniaru ar broblemau cymdeithasol, ac i gefnogi grwpiau a theuluoedd BAME. Bydd y tîm yn datblygu, yn cyfathrebu ac yn dehongli’r darganfyddiadau ymchwil mewn sawl ffordd; allbynnau testunol a chreadigol ac artistig (yn cynnwys allbynnau ffeithiol a ffuglen ar ffurf ffilmiau dogfen a chynyrchiadau theatr) er mwyn codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac i gynyddu amlygrwydd y materion hyn gyda’r cyhoedd yn ehangach.
Dywedodd y Prif Ymchwilydd, yr Athro Iyiola Solanke:
“Mae dau firws yn effeithio pobl o gymuedau Du a Lleiafrifol Ethnig ar draws y DU. Covid-19 yw un a gwahaniaethu ar sail hil yw’r llall. Rydym ni am geisio amlygu’r ffordd y mae Covid-19 yn gwaethygu’r profiad o anghydraddoldeb i’r sawl sydd yn y cymunedau hyn.”
Co-POWeR: Consortium on Practices of Wellbeing and Resilience in Black, Asian and Minority Ethnic Families and Communities (BAMEFC)
Research Team: Principal Investigator, Professor Iyiola Solanke, University of Leeds (PI); Co-Investigators: Professor Florence Ayisi, University of South Wales; Professor Claudia Bernard, Goldsmiths, University of London; Professor Gargi Bhattacharyya, University of East London; Professor Anna Gupta, Royal Holloway; Professor Raminder Kaur, University of Sussex; Professor Monica Lakhanpaul, UCL (University College London); Professor Shirin Rai, University of Warwick; Professor Maria Stokes, University of Southampton and Professor Sabu Padmadas, University of Southampton.
Funder: UK Research and Innovation (UKRI) via the Economic & Social Research Council (ESRC)
Website: https://co-power.leeds.ac.uk/
Duration: 18 months – February 2021-August 2022
Summary: Co-POWeR explores the impact of COVID-19 on BAME groups. It is a multidisciplinary research project involving nine (9) UK universities. Co-POWeR research involves 5 innovative interlinked studies exploring the combined impact of the Covid-19 pandemic and racial discrimination on wellbeing and resilience on BAME people. It aims to establish a fuller understanding of the lived experiences, abilities and challenges faced by BAME families and communities. These interlinked projects will explore the interaction of care, caring and carers within BAME families and communities; the impact of government emergency powers on wellbeing and resilience; improving resilience and wellbeing to tackle underlying health conditions; and the empowerment of BAME families and communities through positive narratives.
Research will take place in partnership with local authorities and community organisations, through remote and/or face-to-face focus groups, individual interviews, storytelling methods, and participatory workshops with elders, youths, children and their families across the UK, including Leeds, Leicester, Coventry, Cardiff and several London boroughs, including Camden and Tower Hamlets.
Impact
Using their findings, the Co-POWeR research teams will make recommendations to policymakers on the interventions needed to mitigate the social problems, and to support BAME groups and families. The team will develop, communicate and interpret the research findings through numerous deliverables; text-based and creative and artistic outputs (including non-fiction and fiction outputs in the form of documentary films and theatre arts productions) in order to raise awareness, understanding and to increase the visibility of the issues for the wider public.
The Principal Investigator, Professor Iyiola Solanke said:
“There are two viruses affecting people from Black and Minority Ethnic communities across the UK. One is COVID-19 and the other is discrimination. We want to illustrate the way in which COVID-19 is exacerbating the experience of inequality for those in these communities.”