30-01-2020 am 9.30am i 6pm
Lleoliad: TRAMSHED TECH, CAERDYDD
Cynulleidfa: Public
Cost: £5
Symposiwm Trochi: ADDYSG CERDDORIAETH BOBLOGAIDD YNG NGHYMRU
Mae gan Gymru dirwedd unigryw yn ddiwylliannol, gwleidyddol, ieithyddol a cherddorol wrth gwrs. Fel Cenhedloedd Bach eraill, mae gan y wlad set benodol o heriau er mwyn sicrhau ei bod yn manteisio ar botensial llawn cerddoriaeth. O ran addysg cerddoriaeth boblogaidd, caiff y dirwedd ehangach hon ei llywio gan fentrau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol. Bwriad y mentrau hyn o leiaf yn rhannol yw ‘addysgu’ rhanddeiliaid o fewn Diwydiant Cerddoriaeth Cymru. Er bod y mentrau hyn wedi’u lleoli y tu allan i addysg ‘prif ffrwd’, gellir eu hystyried yn bodoli ochr yn ochr â dadleuon ynghylch lle cerddoriaeth boblogaidd yn y cwricwlwm a dirywiad y ddarpariaeth offerynnol yng Nghymru gyda’r ddau wedi bod yn rhan o ddadleuon parhaus yn y Senedd. Yn cynnwys ystod o siaradwyr arbenigol, byddwn yn archwilio'r dadleuon hyn, gan amlinellu astudiaethau achos, arfer da a ffyrdd y gall system addysg Cymru wella.
CYFLWYNIAD:
09.50am
Yr Athro Paul Carr
PANEL 1:
10.00am - 11.30am
Olivia Gable a James Hannam: Hanfod: Ariannu addysg
gerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru.
Rob Smith: Darllen a Siarad: Archwilio arddull gerddorol yn yr ystafell
ddosbarth a chymuned yng Nghymru.
Luke Thomas: Tuag at Ysgol Cymorth Cerddoriaeth Boblogaidd yng Nghymru: achos Project
Forté.
EGWYL COFFI:
11.30am – 12.00pm
PANEL 2:
12.00pm - 1.30pm
Paula Gardiner a Rachel Kilby: Cerddoriaeth yw Cerddoriaeth:
dyfodol diwylliannol cyfoethocach i Gymru.
Bethan Jenkins: Ysgol Lewis, Pengam: Lle Ysgrifennu Caneuon yng Nghwricwlwm
Cerddoriaeth Cymru.
Gillian Mitchell: Dyfodol Cerddorol a Chelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru:
Astudiaeth Achos.
Simon Parton: Cyfle Cyfartal: Defnyddio technoleg a cherddoriaeth bop i ennyn
diddordeb pobl ifanc mewn creu cerddoriaeth.
EGWYL CINIO:
1.30pm - 2.30pm
PRIF SIARADWR:
2.30pm - 3.30pm
Yr Athro Paul Carr: Addysgeg Cerddoriaeth Roc yn y DU a'r UD: Anwybodaeth neu Elitiaeth?
EGWYL COFFI:
3.30pm - 3.45pm
SYLWADAU CLOI
3.45pm - 4.30pm
Yr Athro Helena Gaunt (Pennaeth, CBCDC).