Gwobr Gyfathrebu’r Hinsawdd IAMC 2020 i Dr Bronwin Patrickson

bronwin

Gwobrwywyd Dr Bronwin Patrickson, Cymrawd Ymchwil Effaith a Gwerthuso, Cynulleidfa’r Dyfodol, gyda Gwobr Gyfathrebu’r Hinsawdd 2020 Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil y Cyfryngau a Chyfathrebu (The International Association for Media and Communication Research neu IAMC). Bydd y Wobr yn cyllido atudiaeth effaith o’r gêm fidio Brodorol, Never Alone/Kisima Inŋitchuŋa, a seilir ar y chwedl Iñupiaq, "Kunuuksaayuka". 

Mae’r Dr Bronwin Patrickson newydd olygu rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn mynediad agored Digital Culture and Education ar Eco-pedagogy and Digital Nature Connections. Mae’r rhifyn arbennig yn cynnwys papur cynhadledd fidio Bronwin ar Agency and Interspecies Connections in the video game Shelter (wedi’i fewnosod ar waelod y dudalen ragarweiniol), a gyflwynwyd yn wreiddiol yng nghynhadledd ASLE-UKI 2019 yn Plymouth, y DU. Mewn cydweithrediad gyda Michael Pierre-Johnson, mae Bronwin hefyd wedi cyhoeddi pennod yn dwyn y teitl "Playful Design Manifesto for Creative Blockchain Ecosystems", yn y llyfr Managing Digital Open Innovation. 

Gellir gweld holl allbynau ymchwil Dr Bronwin Patrickson yma a manylion am y wobr yma: The International Association for Media and Communication Research.

#mmd.cy