14-11-2022
Mae llyfr newydd Dr Philip Cowan Authorship and Aesthetics in the Cinematography of Gregg Toland yn archwiliad manwl o gelfyddyd sinematograffi.
Yn yr astudiaeth dair rhan hon, mae Philip Cowan yn archwilio dulliau o gyd-awduraeth mewn gwneud ffilmiau cydweithredol i gynnig ffyrdd newydd o adnabod, priodoli, a gwerthuso gwaith creadigol sinematograffwyr.
Yn rhan gyntaf yr astudiaeth, mae Cowan yn herio'r dull auteur blaenllaw tuag at astudiaethau ffilm sy'n canolbwyntio ar y cyfarwyddwr, gan feirniadu datblygiad hanesyddol theori awduraeth a darparu dadansoddiad cyfoes o rôl awdurol y sinematograffydd wrth greu delweddau sy'n cyfleu ystyr drwy eu lluniad.
Yn ail ran yr astudiaeth, mae Cowan yn datblygu tacsonomeg newydd, gynhwysfawr o elfennau esthetig swyddogaethol o'r ddelwedd symudol trwy syntheseiddio a diweddaru gwaith damcaniaethwyr ffilm blaenorol, er mwyn diffinio cymhlethdodau cyfansoddiad, symud, a goleuo.
Yn olaf, drwy ddefnyddio'r dull cydawdur a'r offer dadansoddol a ddatblygwyd yn rhan dau o'r llyfr, mae Cowan yn darparu ail-archwiliad manwl o waith Gregg Toland, gan dynnu sylw at esgeulustod hanesyddol cyfraniad artistig y sinematograffydd i wneud ffilmiau a datblygu dull newydd o ddadansoddi sinematograffi gyfoes.
Disgrifiwyd y llyfr newydd hwn fel, "Cyfrol angenrheidiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn posibiliadau mynegiannol ffilm Americanaidd fel ffurf diwylliant modern" (Dana Polan, Prifysgol Efrog Newydd). "Mae'r astudiaeth arloesol hon yn darparu cyfraniad mawr i ddealltwriaeth feirniadol a gwerthfawrogiad y grefft o sinematograffi " (Duncan Petrie, Prifysgol Efrog).
22-02-2023
22-02-2023
15-11-2022
15-11-2022
14-11-2022
14-11-2022
01-07-2022
01-07-2022
05-05-2022