28-02-2022
Mae Ofcom wedi penodi'r Athro Ruth McElroy o Brifysgol De Cymru (PDC) i'w Bwrdd Cynnwys.
Bydd yr Athro McElroy yn cynrychioli buddiannau a barn pobl sy'n byw yng Nghymru i Ofcom, a bydd yn ymuno â'r Bwrdd Cynnwys am gyfnod o dair blynedd.
Yn Athro Diwydiannau Creadigol a Phennaeth Ymchwil y Diwydiannau Creadigol yn PDC, mae gan yr Athro McElroy dros 20 mlynedd o brofiad o addysgu ac ymchwilio i'r cyfryngau yn Addysg Uwch y DU, gan ganolbwyntio ar y sector sgrin, polisi'r cyfryngau a hunaniaethau diwylliannol.
Mae'n Gyd-Gyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, un o naw Clwstwr Ymchwil a Datblygu a ariennir drwy Gyngor y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn y DU. Mae hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr ar Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach PDC.
Mae Ruth wedi gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Ofcom ers 2017.
Mae Bwrdd Cynnwys Ofcom yn un o bwyllgorau prif Fwrdd Ofcom. Mae ganddo gyfrifoldeb ymgynghorol dirprwyedig dros ystod eang o faterion yn ymwneud â chynnwys, gan gynnwys rheoleiddio ansawdd a safonau teledu, radio a fideo ar alw.
Mae'r Bwrdd Cynnwys yn darparu profiad golygyddol a chynnwys uwch i Ofcom. Mae'n cynnwys arbenigwyr o amrywiaeth o gefndiroedd masnachol, cyfryngau a thelegyfathrebu, gan gynnwys papurau newydd, Channel 4, Sky, llwyfannau technoleg a darlledu.
22-02-2023
22-02-2023
15-11-2022
15-11-2022
14-11-2022
14-11-2022
01-07-2022
01-07-2022
05-05-2022