05-05-2022
Dr Helen Davies, Yr Athro Lisa Lewis, Dr Gareth Bonello
Cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) ei Gwobrau Effaith ac Arloesi blynyddol neithiwr, i ddathlu ymchwil sy'n cael effaith ar y gymuned a chymdeithas ehangach yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Eleni, derbyniwyd 26 o geisiadau gan sbectrwm eang o ddisgyblaethau a gan ymchwilwyr ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd. Mae'r prosiectau ar y rhestr fer yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu cymdeithas heddiw, o hyrwyddo cydlyniant cymunedol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac o hyrwyddo cydraddoldeb i wella mynediad at ofal iechyd i bawb.
Enillwyd y wobr am Effaith ar Ddiwydiannau Creadigol gan yr Athro Lisa Lewis am 'Hwyluso ymwybyddiaeth ddiwylliannol rhwng Cymru a'r gymuned Khasi'.
Mae’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y Cymry a phobl Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India wedi cael eu hadfywio drwy ymchwil arloesol gan Ganolfan Astudio Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach PDC. Maen nhw wedi cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith cymunedau yn India a Chymru o hanes y cyfnewid diwylliannol rhwng y Cymry a’r Khasi drwy ddefnyddio amryw o ffurfiau celf. Mae hwn hefyd yn fodel o gydweithredu diwylliannol rhyngwladol ac mae'n dangos sut y gall arfer artistig helpu cymunedau i ddod i delerau â'u hanesion cymhleth a chudd.
22-02-2023
22-02-2023
15-11-2022
15-11-2022
14-11-2022
14-11-2022
01-07-2022
01-07-2022
05-05-2022