Mae Uned Ymchwil Diwydiannau Creadigol Prifysgol De Cymru: Cerddoriaeth, Perfformio a’r Cyfryngau wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, canolfan gynhyrchu sgrin fwyaf y DU y tu allan i Lundain. Mae ein hallbynau yn amrywio o ffilmiau dogfen ac arddangosfeydd ffotograffaidd arobryn i lyfrau sylweddol sy’n dadansoddi testunau creadigol a phrosesau diwylliannol. Mae ein hymchwil yn gydweithredol ac aml-ddisgyblaethol, yn adlewyrchu realiti cynhyrchu creadigol yn y diwydiannau creadigol.
Mae’r Uned yn cynhyrchu ymchwil o safon uchel ag iddo impact a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a werthfwarogir yn lleol. Cyllidir nifer o’n prosiectau naill ai drwy grantiau ymchwil allanol neu ddyfarniadau celfyddydol. Mae ein cymuned ymchwil lwyddiannus yn cynnal ymchwilwyr ar draws ystod o gamau gyrfaol, gan gynnwys myfyrwyr PhD, Cynorthwywyr Ymchwil, Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ac Athrawon Gwâdd.
Mae ymchwilwyr hŷn yr Uned yn gweithredu fel Cyfarwyddwyr Canolfannau Ymchwil mawr PDC, gan gynnwys y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Dogfennol, a Chanolfan Adrodd Straeon George Ewart Evans.