Media Music Drama Research Group main image

Amdanom Ni


Mae Uned Ymchwil y Diwydiannau Creadigol yn un o’r unedau mwyaf o ran maint ac o safbwynt amlddisgyblaethedd ym Mhrifysol De Cymru (PDC). Wedi ei lleoli yng nghanol Caerdydd, yn un o’r hybiau creadigol mwyaf y tu allan i Lundain, mae’r Uned wedi sefydlu partneriaethau cydweithredol sylweddol gyda’r diwydiannau creadigol a gwneuthurwyr polisi. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil(FfRhY) 2021, dyfarnwyd 75% o waith ymchwil yr Uned (D35) Cerddoriaeth, Drama, Dawns a Chelfyddydau Perfformio (gan gynnwys cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol) naill ai’n ryngwladol ragorol (3*) neu’n arwain yn fyd-eang (4*).

Galluogir ein harweinyddiaeth yn y diwydiannau creadigol gan ein hethos cydweithredol o weithio gyda sefydliadau allanol. Mae aelodau’r Uned yn cynnig arweinyddiaeth ac arbenigedd ar gyfer y diwydiannau creadigol a gwneuthurwyr polisi sy’n ceisio gwella rôl creadigrwydd ym mywyd economaidd a diwylliannol Cymru. Mae gan yr Uned gryfderau penodol mewn ymchwil amlddisgyblaethol, cydweithredol ag iddo impact, yn enwedig ym meysydd y Celfyddydau a Iechyd, Cyfryngau Sgrîn, ac Ymchwil-drwy-Ymarfer.

Y Celfyddydau a Iechyd

Rydym wedi chwarae rôl arweiniol ym maes ymchwil y celfyddydau creadigol a iechyd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi arwain yn uniongyrchol at gynyddu hyfforddiant gweithwyr rheng flaen yn GIG Cymru ac NHS England. Mae’r ymchwil gydweithredol mewn adrodd straeon yn tynnu sylw at les y gymuned yn ogystal â lles yr unigolyn ac yn ymgorffori hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ymchwil yn cydweithio gyda ac yn rhoi budd i gymunedau difreintiedig ac unigolion di-rym, sydd mewn sawl achos yn profi trawma ac sydd wedi eu heithrio yn gymdeithasol.

Clystyrau creadigol a chyfryngau sgrîn

Mae’r Uned wedi datblygu ei gallu ar gyfer ymchwil a datblygiad arloesol ag iddi impact diwydiannol yn y sector sgrîn. Yn 2018, roedd PDC yn un o ddim ond dwy brifysgol yn y DU i ennill grant  clwstwr creadigol Clwstwr a grant arddangosydd Audience of the Future drwy raglen Economi Greadigol UKRI. Mae’r gwobrwyon cydweithredol, diwydiannol sylweddol hyn yn lleoli arbenigedd yr Uned mewn prosiectau arloesol a arweinir gan y diwydiant ac sydd o fudd i sector sgrîn dwyieithog Cymru.

Ymchwil-drwy-Ymarfer

Mae’n hymchwil-drwy-ymarfer, sy’n arwain yn fyd-eang, yn ganolog i impact diwylliannol ac artistig yr Uned. Mae’n cynnwys arddangosfeydd a chyhoeddiadau a ddethlir yn rhyngwladol, ffilmiau arobryn a ddetholir ar gyfer gwyliau ffilm bydeang, ac ymarfer sydd ar frig y don o safbwynt theatr a pherfformiad Cymraeg a Chymreig. Mae presenoldeb y gwaith hwn mewn cyd-destun ymchwil-drwy-ymarfer yn galluogi dolen gyfoethog rhwng diwydiant ac amgylchedd ymchwil sy’n cynyddu impact cymdeithasol a chelfyddydol y gwaith.