Digwyddiadau a Seminarau

Mae’r Uned yn gweithredu mewn amgylchedd ymchwil bywiog sy’n cynnwys cyfresi seminarau, cynadleddau a digwyddiadau cydweithredol amrywiol. Trefnir nifer o’r rhain gan ein Canolfannau Ymchwil er mwyn cyflwyno’r ymchwil a’r syniadau diweddaraf ac er mwyn ymgynnull ysgolheigion, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr proffesiynol o’r diwydiant yng Nghymru, o’r DU ac yn fydeang. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau cydweithredol yn cynnwys y Symposiwm Adrodd Straeon Blynyddol; cynhadledd Menywod mewn Ffocws: Dogfennaeth a Dinasyddiaeth mewn cydweithrediad ac Amgueddfa Cymru; gweithgareddau interim Y Gymdeithas Ymchwil mewn Theatr a Pherfformiad (TaPRA) a’r symposiwm ‘Immersed’ ar addysg cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru.