Prosiectau Ymchwil

Mae’r Uned wedi derbyn grantiau cyngor-cyllido sylweddol ar gyfer prosiectau ymchwil cydweithredol ac wedi cynnal ymchwil arloesol, creadigol a seilir mewn ymarfer.

Mae’r detholiad o brosiectau ymchwil isod yn enghreifftiau o gryfderau penodol yr Uned mewn ymchwil amlddisgyblaethol, cydweithredol ag iddo impact. Rydym yn cydnabod cefnogaeth yr AHRC, UKRI, ESRC, WEFO, Creative Wales, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, y Gymdeithas ar gyfer Ymchwil Theatr, ac Ymddiriedolaeth Wellcome. Cydnabyddwn hefyd Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Prydeinig India, Cyngor Prydeinig Cymru, a Creative Scotland am eu cefnogaeth o waith proffesiynol sydd wedi bod yn greiddiol i’r ymchwil-drwy-ymarfer a arweinir gan yr Uned.