Mae’r Uned yn cynnig graddau MPhil a PhD drwy astudiaeth lawn-amser neu ran-amser. Cynhelir symposiwm ôl-raddedig yn flynyddol gan y Gyfadran sy’n gyfle i fyfyrwyr ymchwil drafod eu prosiectau ymchwil mewn amgylchedd cefnogol ac ysgolheigaidd. Cynllunir y symposiwm er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno, i werthuso eu datblygiad, ac i gyfrannu i ddatblygiad ysgolheigaidd eu cymheiriaid.