Cefnogaeth i Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Uned

Mae’r Uned yn cefnogi ymchwilwyr ôl-raddedig yn eu datblygiad academaidd a phroffesiynol ehangach. Annogir ein holl fyfyrwyr i ymgeisio i Gronfa Ymgysylltiad Myfyrwyr y Brifysgol, sy’n galluogi myfyrwyr i gyflwyno mewn cynadleddau allanol neu ddigwyddiadau eraill o safbwynt y diwydiant, y celfyddydau neu bolisi. 

Cynigir hyfforddiant proffesiynol hefyd, drwy weithdai yn canoli ar agweddau penodol fel sut i gyhoeddi ymchwil mewn cyfnodolion academaidd a sut i guradu arddangosfeydd ymchwil-drwy-ymarfer.

Mae’r Uned yn cefnogi myfyrwyr i gyrchu cyfleoedd a dysgu ehangach drwy annog ymgysylltiad gyda chymdeithasau disgyblaethol a rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol eraill.  Mae’r Uned wedi cefnogi myfyrwyr doethur i gael secondiad dros dro mewn swyddi ymchwil tymor penodol lle mae modd iddynt ddatblygu sgiliau a phrofiad o brosiectau ymchwil a gyllidir yn allanol.

Yn ychwanegol at hynny, annogir ein holl fyfyrwyr i gyflwyno yn y symposiwm ymchwil ôl-radd blynyddol, sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu hyder wrth gyflwyno eu hymchwil, sy’n gyfle iddynt dderbyn adborth y tu hwnt i’w timoedd goruchwylio ac i gael mewnwelediad i’r ymchwil ôl-raddedig ehangach sy’n digwydd yn yr Uned.