Mae symposiwm blynyddol myfyrwyr ôl-raddedig yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil i drafod eu prosiectau ymchwil mewn amgylchedd cefnogol ac ysgolheigaidd. Cynllunir y symposiwm er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno, i werthuso eu datblygiad, ac i gyfrannu i ddatblygiad ysgolheigaidd eu cymheiriaid. Mae’r symposiwm yn agored i’n holl staff a myfyrwyr ac yn digwydd yn flynyddol. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwil gymryd rhan yn y symposiwm bob blwyddyn.